Psalms 118

Gweddi o ddiolch am ddaioni Duw

1Diolchwch i'r Arglwydd!
Mae e mor dda aton ni!
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
2Gadewch i Israel gyfan ddweud,
“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
3Gadewch i'r offeiriaid ddweud,
“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
4Gadewch i bawb arall sy'n addoli'r Arglwydd ddweud,
“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
5Ro'n i mewn helbul, a dyma fi'n galw ar yr Arglwydd.
Dyma'r Arglwydd yn ateb ac yn fy helpu i ddianc.
6Mae'r Arglwydd ar fy ochr,
felly fydd gen i ddim ofn.
Beth all pobl ei wneud i mi?
7Mae'r Arglwydd ar fy ochr i'm helpu,
felly bydda i'n gweld fy ngelynion yn syrthio.
8Mae'n llawer gwell troi at yr Arglwydd am loches
na trystio pobl feidrol!
9Mae'n llawer gwell troi at yr Arglwydd am loches
na trystio'r arweinwyr.
10Roedd y paganiaid yn ymosod arna i;
ond dyma'r Arglwydd yn fy helpu i'w gyrru nhw i ffwrdd.
11Roedden nhw'n ymosod arna i o bob cyfeiriad;
ond dyma'r Arglwydd yn fy helpu i'w gyrru nhw i ffwrdd.
12Roedden nhw o'm cwmpas i fel haid o wenyn;
ond dyma nhw'n diflannu mor sydyn â drain yn llosgi.
Dyma'r Arglwydd yn fy helpu i'w gyrru i ffwrdd.
13Roedden nhw'n gwasgu arna i'n galed,
a bu bron i mi syrthio;
ond dyma'r Arglwydd yn fy helpu.
14Yr Arglwydd sy'n rhoi nerth a chân i mi!
Fe sydd wedi fy achub i. a
15Mae pobl Dduw i'w clywed yn canu am y fuddugoliaeth yn eu pebyll,
“Mae'r Arglwydd mor gryf!
16Mae'r Arglwydd yn fuddugol!
Mae Arglwydd mor gryf!”
17Dw i'n fyw! Wnes i ddim marw!
Bydda i'n dweud beth wnaeth yr Arglwydd!
18Roedd yr Arglwydd wedi fy nghosbi'n llym,
ond wnaeth e ddim gadael i mi gael fy lladd.
19Agorwch giatiau cyfiawnder i mi
er mwyn i mi fynd i mewn i ddiolch i'r Arglwydd!
20Giât yr Arglwydd ydy hon –
dim ond y rhai cyfiawn sy'n cael mynd trwyddi.
21Diolch i ti am ateb fy ngweddi,
ac am fy achub i.
22Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr
wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen.
23Yr Arglwydd wnaeth hyn,
mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg!
24Mae heddiw'n ddiwrnod i'r Arglwydd
gadewch i ni ddathlu a bod yn llawen!
25O Arglwydd, plîs achub ni!
O Arglwydd, gwna i ni lwyddo!
26Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd
wedi ei fendithio'n fawr –
Bendith arnoch chi i gyd o deml yr Arglwydd!
27Yr Arglwydd ydy'r Duw go iawn,
ac mae wedi rhoi ei olau i ni.
Gadewch i ni ddathlu!
Ewch at yr allor gyda changhennau coed palmwydd.
28Ti ydy fy Nuw i a dw i'n diolch i ti!
Ti ydy fy Nuw i a dw i'n dy ganmol di!
29Diolchwch i'r Arglwydd!
Mae e mor dda aton ni!
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
Copyright information for CYM